Chwilio'r safle

You are here

Croeso

Coleg Sir Benfro yw darparwr mwyaf y sir o ystod eang o addysg a hyfforddiant ôl-16.  Wedi ei leoli ar gampws modern, pwrpasol yn Hwlffordd, rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi ardderchog i bobl ifanc ac oedolion.  O Lefel A a phrentisiaethau i raddau a dosbarthiadau nos rhan-amser, bydd ein cyrsiau yn eich helpu i gyflawni eich nodau.

Gyda thua 2,000 o fyfyrwyr llawn-amser a 6,500 o fyfyrwyr rhan-amser, mae tiwtoriaid y Coleg yn darparu fframwaith disgybledig a chefnogol sy'n canolbwyntio ar lwyddiant myfyrwyr. Ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol, mae'r Coleg yn darparu amgylchedd bywiog, ysgogol sy'n gweithredu fel cam tuag at y brifysgol a byd gwaith.

Mae'r Coleg yn falch o'i amrywiaeth ardderchog o gyfleusterau ac offer, yn enwedig yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu (llyfrgell), ystafelloedd cyfrifiaduron a TG, mannau penodol ar gyfer astudiaethau dylunio ac aml-gyfrwng, gweithdai technoleg ac, yn fwyaf diweddar, y Ganolfan Adeiladu arobryn gwerth £3.2m a'r Adain Beirianneg gwerth £4m.

Beth bynnag y byddwch yn dewis astudio, byddwch yn sicr o gael croeso cynnes yng Ngholeg Sir Benfro.

Sharron Lusher

Pennaeth