Ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol
Os ydych chi am ddyfodol disglair yn gwneud rhywbeth rydych yn ei garu, yna edrychwch drwy ystod eang o gyrsiau sydd gennym i'w cynnig. Gydag amrywiaeth eang o gyrsiau academaidd (
Safon Uwch) a chyrsiau ymarferol yn ogystal ag ystod o
brentisiaethau sy'n eich galluogi i ennill cyflog wrth ddysgu, rydym yn gobeithio y byddwch yn dod o hyd i'r cwrs sy'n addas i'ch arddull chi o ddysgu a bydd yn eich gosod ar eich ffordd i yrfa gyffrous a gwerth chweil.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Os ydych yn fyfyriwr tramor (heb gynnwys gwledydd yr Undeb Ewropeaidd) ac am astudio mewn sefydliad y DU o ansawdd ewch i'n
safle Rhyngwladol am wybodaeth lawn ar y cyrsiau sydd ar gael, ffioedd dysgu a dewisiadau llety. Mae ein canlyniadau Lefel A a Sylfaen ardderchog yn golygu bod ein myfyrwyr Rhyngwladol yn mynd ymlaen i brifysgolion gorau'r DU, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.
Ar gyfer oedolion sy'n dychwelyd
Mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio i gyd-fynd ag amserlen brysur gwaith neu fywyd cartref oedolion. Mae yna gyrsiau dydd, cyrsiau nos a
chyrsiau ar-lein ar gael yn ein prif gampws yn Hwlffordd, ym
MITEC yn y Dociau yn Aberdaugleddau ac os ydych yn chwilio am gwrs byr yn eich cymuned leol, edrychwch ar ein safle
Camu Ymlaen. Gyda'r Coleg gallwch astudio unrhyw beth o sgiliau sylfaenol i addysg bellach neu hyd yn oed gyrsiau gradd.
Ar gyfer busnesau/cyflogwyr
Dylai cwmnïau a busnesau bach sy’n ystyried hyfforddi eu staff ymweld â'n safle
training4business lle cewch lawer o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu nid yn unig gydag hyfforddi eich staff ond hefyd dyfu eich busnes.
Dysgu yn y gwaith a Prentisiaethau
Os ydych chi'n awyddus i ennill cymhwyster yn y gweithle, fel NVQ neu VRQ neu os ydych am ymgymryd â Phrentisiaeth, cliciwch
yma i gael gwybod beth y gallwn ei gynnig.